Adolygiad o Ddeisebau Cyhoeddus - Ymgynghori â Rhanddeiliaid

 

Y Rhanddeiliaid yr ymgynghorwyd â hwy

 

·                     Byrddau Iechyd yng Nghymru

·                     Awdurdodau Lleol yng Nghymru

·                     Conffederasiwn GIG Cymru

·                     Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

·                     Y Comisiynydd Plant

·                     Y Comisiynydd Pobl Hŷn

·                     Comisiynydd y Gymraeg

·                     Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·                     Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

·                     Sefydliad Bevan

·                     Gorwel

·                     Y Sefydliad Materion Cymreig

·                     Change.org

·                     38 Degrees

 

 


CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU – TROSOLWG O'R SYSTEM DEISEBAU CYHOEDDUS

 

1.     Rheolau Sefydlog y Cynulliad

 

1.1    Nodir y prif ddarpariaethau sy'n rheoli gweithdrefn deisebau cyhoeddus y Cynulliad yn Rheol Sefydlog 23. 

 

1.2    Mae'r Rheol Sefydlog yn cwmpasu'r canlynol:

 

·         bod yn rhaid i'r swyddogaethau yn y Rheol Sefydlog gael eu neilltuo i bwyllgor cyfrifol;

·         ffurf deisebau;

·         derbyniadwyedd deisebau;

·         y camau a gaiff eu cymryd mewn perthynas â deiseb; a

·         threfniadau ar gyfer cau deisebau.

 

2.     Y pwyllgor cyfrifol

 

2.1    Gellir neilltuo'r swyddogaethau yn Rheol Sefydlog 23 i unrhyw un o bwyllgorau'r Cynulliad, ond mae'r Cynulliad wedi sefydlu'r Pwyllgor Deisebau i ystyried deisebau derbyniadwy.

 

2.2    Yn wahanol i bwyllgorau eraill y Cynulliad, nid yw aelodaeth y Pwyllgor Deisebau yn dilyn cydbwysedd gwleidyddol y Cynulliad.  Yn hytrach, pedwar aelod sydd ganddo, sef un o bob grŵp gwleidyddol.  Mae'r Pwyllgor yn ceisio gweithredu mewn modd cydsyniol.

 

2.3    Mae gan y Pwyllgor bwerau arferol Pwyllgorau eraill y Cynulliad, gan gynnwys y gallu i wahodd unrhyw un i gyfarfodydd i roi tystiolaeth neu gyngor, a'r gallu i arfer pwerau'r Cynulliad i 'alw am bobl a phapurau'.

 

Cwestiwn 1 yr ymgynghoriad

 

Ai sefydlu Pwyllgor Deisebau yw'r ffordd orau o sicrhau bod deisebau yn cael sylw priodol?  A yw maint a chyfansoddiad y Pwyllgor yn addas i'w rôl?

 

3.     Ffurf deisebau

 

3.1    Rhaid i ddeisebau nodi'r canlynol yn glir;

 

·      enw'r deisebydd, a all fod yn unigolyn (ar wahân i Aelod Cynulliad), yn sefydliad neu yn gymdeithas;

·      cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth ynghylch y ddeiseb; ac

·      enwau a chyfeiriadau unrhyw un sy'n cefnogi'r ddeiseb.

 

3.2    Y Llywydd sy'n gyfrifol am bennu priod ffurf deisebau, a rhaid iddi gyhoeddi ei phenderfyniadau. Hyd yma, ni fu rhaid i'r Llywydd wneud hynny.  Fodd bynnag, mae'n arferol i ddeisebau gael eu mynegi fel a ganlyn:

 

Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru ... NEU Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru...

 

3.3    Nid oes terfyn ar hyd deisebau, ond bydd tîm clercio'r Pwyllgor Deisebau yn cynghori y dylai deiseb fod yn gryno a chanolbwyntio ar y camau yr hoffai'r deisebwyr eu gweld yn cael eu cymryd.  Yn ogystal â'r Rheolau Sefydlog, ystyrir telerau ac amodau'r deisebau wrth wneud penderfyniad o ran eu derbynioldeb.

 

3.4    Bydd y tîm clercio hefyd yn rhoi cyngor ar eiriad sy'n annerbyniadwy am ei fod yn sarhaus neu y gallai fod yn ddifrïol, neu am ei fod yn codi materion fel 'sub judice'. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig bod deisebwyr yn gyfrifol am eirio eu deisebau eu hunain, gan gynnwys mynegi barn gadarn. 

 

Cwestiwn 2 yr ymgynghoriad

 

A oes angen mwy o eglurder ynghylch priod ffurf deisebau, ynteu a yw'r trefniadau presennol yn ddigonol?

 

4.     Derbyniadwyedd deisebau

 

4.1    Y Llywydd yw'r canolwr terfynol ynghylch derbyniadwyedd deisebau, ond mae wedi dirprwyo penderfyniadau pob dydd ynghylch derbyniadwyedd yn ffurfiol i Glerc y Pwyllgor Deisebau (nid oes gan y Pwyllgor ei hun rôl yn y penderfyniadau hyn).

        

4.2    Ar wahân i beidio â bod yn y fformat cywir, cynnwys iaith sarhaus ac ati, mae deisebau'n annerbyniadwy:

 

·      os oes ganddynt lai na 10 llofnod (oni bai mai sefydliadau neu gymdeithasau sy'n eu cyflwyno; os felly, un llofnod yn unig sydd ei angen);

·      os ydynt yn gofyn i'r Cynulliad wneud rhywbeth nad oes gan y Cynulliad bŵer i'w wneud;

·      os ydynt yr un peth â deiseb a gaewyd lai na blwyddyn ynghynt neu maent yn debyg iawn iddi. (Rhoddir eglurhad pellach o hyn yn y telerau ac amodau sy'n nodi: 'cadwn yr hawl i wrthod deisebau sy’n debyg i a / neu’n gorgyffwrdd â deiseb a gafodd ei thrafod yn ystod y 12 mis diwethaf'.)

 

Llofnodion gofynnol

 

4.3    Nid yw'r trothwy ar gyfer deisebau yn uchel ac felly nid yw'n atal pobl rhag cyflwyno deisebau.  Mae hyn hefyd yn golygu bod materion yn cael eu hystyried lle nad oes ganddynt gefnogaeth eang neu gefnogaeth gyffredinol ond eu bod, er hynny, yn bwysig i'r rhai dan sylw.

 

Deisebau gan sefydliadau

 

4.4    Un llofnod yn unig sydd ei angen i ddeiseb sefydliad fod yn ddilys (bydd llawer o'r deisebau hyn yn casglu nifer sylweddol o lofnodion er hynny).  Mewn gwirionedd, mae'r diffiniad o'r hyn sy'n cyfrif fel sefydliad yn llac iawn, gyda grwpiau sydd wedi'u creu'n ffurfiol, fel elusennau ac undebau llafur, yn gallu cyflwyno deisebau ynghyd â grwpiau llai ffurfiol, fel grwpiau ymgyrchu neu gymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr.

 

Cwestiwn 3 yr ymgynghoriad

 

A yw'r nifer ofynnol bresennol ar gyfer llofnodion (10) i ddeiseb yn rhy uchel, yn rhy isel neu yn iawn?  A ddylai fod rhaid i sefydliadau hefyd gyrraedd nifer ofynnol y llofnodion (pa lefel bynnag y bo)?  Os bydd y nifer ofynnol ar gyfer sefydliadau yn parhau i fod yn wahanol, a oes angen defnyddio diffiniad mwy cadarn o beth yw sefydliad?

 

         Cymhwysedd y Cynulliad

 

4.5    Gellir dehongli'r rhan fwyaf o'r meini prawf ar gyfer derbyniadwyedd yn gymharol syml.  Y gofyniad na ddylai deiseb ofyn i'r Cynulliad wneud unrhyw beth y mae'n amlwg nad oes gan y Cynulliad bŵer i wneud unrhyw beth yn ei gylch yw'r prif ffactor yn y rhan fwyaf o benderfyniadau . 

 

4.6    Wrth ddehongli hyn, mae'r Llywydd wedi cytuno na ddylai deisebau fynd y tu hwnt i allu'r Cynulliad na Gweinidogion Cymru o ran eu datrys.  Felly, un o'r prif brofion wrth benderfynu a yw deiseb yn dderbyniadwy yw a yw pwnc y ddeiseb oddi mewn i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol neu bwerau Gweinidogion Cymru. 

 

Cwestiwn 4 yr ymgynghoriad

 

Ai dim ond deisebau sy’n ymwneud â materion lle mae gan y Cynulliad neu Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb y dylai’r Cynulliad barhau i’w hystyried? 

 

4.7     Mae deisebau am gyfrifoldebau gweithredol awdurdodau lleol unigol hefyd yn annerbyniadwy, er y gall fod yn fwy anodd penderfynu pan fo gan Weinidogion Cymru rôl yn y penderfyniadau sydd fel arall yn gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol, fel cau ysgolion.

 

Cwestiwn 5 yr ymgynghoriad

 

A ddylai'r Cynulliad ystyried deisebau ar faterion y mae awdurdodau lleol unigol yn bennaf gyfrifol amdanynt?  A oes cyfrifoldebau awdurdodau lleol y dylid caniatáu deisebau yn eu cylch?

 

4.8    Caniateir deisebau ar gyfrifoldebau gweithredol byrddau iechyd lleol (a chyrff cyhoeddus eraill a noddir gan Lywodraeth Cymru).  Mae hyn oherwydd yr ystyrir bod awdurdodau lleol yn atebol yn ddemocrataidd i'w hetholwyr ac ni welir bod byrddau iechyd lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn atebol yn yr un ffordd o bosibl.  Hefyd, gall Llywodraeth Cymru gyfarwyddo gwaith bob dydd y Gwasanaeth Iechyd ar raddfa fwy nag y mae'n cyfarwyddo gwaith llywodraeth leol.

 

Cwestiwn 6 yr ymgynghoriad

 

A ddylai'r Cynulliad barhau i ystyried deisebau ar faterion y mae gan gyrff cyhoeddus (ac eithrio awdurdodau lleol) gyfrifoldeb bob dydd drostynt?  A oes cyrff cyhoeddus y dylid eu trin yn wahanol (e.e. byrddau iechyd lleol)?

 

         Deisebau tebyg iawn

 

4.9    Caiff y maen prawf hwn ei ddehongli'n gymharol hael mewn perthynas â phynciau nad yw'r Pwyllgor wedi'u trafod yn ddiweddar, yn arbennig pan gaiff deisebau ar yr un mater eu cyflwyno tua'r un pryd.  Mewn gwirionedd, bydd y Pwyllgor Deisebau yn aml yn 'grwpio' deisebau tebyg er mwyn osgoi dyblygu trafodaethau'n ddiangen.  Fodd bynnag, pan fo deiseb ar fater sydd wedi'i gau gan y Pwyllgor, caiff dull mwy cyfyngedig ei ddefnyddio.

 

Cwestiwn 7 yr ymgynghoriad

 

A ddylai'r Cynulliad ystyried deisebau sy'n debyg iawn i rai sy'n cael eu hystyried neu sydd wedi cael eu hystyried yn ddiweddar? 

 

Cyhoeddi deisebau annerbyniadwy

 

4.10  Cyhoeddir rhestr o ddeisebau annerbyniadwy yn rheolaidd, ynghyd â’r rhesymau y mae'r deisebau hynny'n annerbyniadwy.

 

Cwestiwn 8 yr ymgynghoriad

 

A ddylai'r Cynulliad barhau i gyhoeddi deisebau annerbyniadwy yn rheolaidd? 

 

5.     Gweithredu ynghylch deiseb

 

Rheolau Sefydlog y Cynulliad

 

5.1    Mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn dweud bod rhaid i'r Pwyllgor Deisebau, wrth iddo ystyried deisebau:

 

·                    gyfeirio'r ddeiseb at y Llywodraeth, unrhyw un o bwyllgorau eraill y Cynulliad neu unrhyw berson neu gorff arall fel y gallant gymryd unrhyw gamau sy'n briodol yn eu barn hwy;

·                    cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad; neu

·                    gymryd unrhyw gamau eraill sy'n briodol ym marn y Pwyllgor.

 

5.2        Rhaid i'r Pwyllgor hefyd roi gwybod i’r deisebwyr am unrhyw gamau y mae'n eu cymryd mewn perthynas â deiseb.  Er y gall gau deiseb ar unrhyw adeg, rhaid iddo roi gwybod i’r deisebwyr fod y deisebau wedi cau a rhoi’r rhesymau dros wneud hynny. 

 

5.3        Mewn gwirionedd, mae'r gofynion hyn, ynghyd â'r pwerau eraill sydd ar gael iddo, yn caniatáu cwmpas eang i'r Pwyllgor gymryd camau ynghylch deisebau, yn ogystal â sicrhau y caiff deisebwyr wybod am hynt y ddeiseb. 

 

Cwestiwn 9 yr ymgynghoriad

 

A oes angen newid Rheolau Sefydlog y Cynulliad mewn perthynas â'r Pwyllgor Deisebau? 

 

Delio â deisebau yn ymarferol

 

5.4        Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod unwaith bob pythefnos am hyd at ddwy awr. Unwaith y bydd y Pwyllgor yn dechrau ystyried deiseb, bydd fel arfer yn gofyn am farn y Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru, ac yna gall ofyn am wybodaeth neu farn gan gyrff eraill sydd â rôl i'w chwarae wrth helpu i ymdrin â materion a godwyd gan ddeiseb. 

 

5.5    Gall y Pwyllgor gyfeirio deiseb at bwyllgorau eraill y Cynulliad neu wahodd tystion, gan gynnwys Gweinidogion Llywodraeth Cymru, i ddod i'w gyfarfodydd i ateb cwestiynau. Gall y Pwyllgor hefyd adrodd i'r Cynulliad; mae hynny fel arfer yn arwain at ddadl yn y Cynulliad.  Fodd bynnag, ni all y Pwyllgor orfodi'r Llywodraeth, y Cynulliad na chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i gymryd unrhyw gamau penodol ac nid oes ganddo bŵer i roi'r hyn y mae'r ddeiseb yn ei geisio ar waith.

 

5.6    Mae nifer fawr o ddeisebau yn dod i'r Pwyllgor (ar hyn o bryd mae ganddo tua 200 dan ystyriaeth) ac nid yw'n bosibl iddo roi sylw cyfartal na sylw brys i'r holl ddeisebau.

 

5.7    Ymdrinnir â sawl deiseb drwy ohebiaeth yn unig, er y bydd deisebwyr a thystion eraill yn ymddangos gerbron y Pwyllgor mewn achosion eraill, fel y gall gael gwell dealltwriaeth o'r materion dan sylw.  Caiff rhai deisebau eu cyfeirio at bwyllgorau eraill y Cynulliad er mwyn iddynt eu trafod, ond y Pwyllgor Deisebau sy'n ymdrin â'r rhan fwyaf ohonynt. 

 

5.8    Pan fydd deiseb yn cael ei chyflwyno, gall mai hwnnw yw'r tro cyntaf i'r mater gael ei godi gyda'r Cynulliad neu Lywodraeth Cymru.  Mewn rhai deddfwrfeydd eraill, rhaid i ddeisebwyr ddangos eu bod yn gyntaf wedi ceisio datrys y mater mewn ffordd arall cyn cyflwyno deiseb.

 

5.9    Mewn rhai achosion, bydd y Pwyllgor yn cynnal ei ymchwiliadau ei hun, ond mae pwysau amser a'r amrywiaeth eang o ddeisebau a gyflwynir yn golygu y bydd y rhain fel arfer yn fyrrach ac yn fwy cyfyngedig o ran eu cwmpas na'r ymchwiliadau y mae pwyllgorau eraill yn eu cynnal.  Gall y Pwyllgor gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar unrhyw ddeiseb, a lle y bydd yn gwneud hyn, bydd yn arwain at ddadl yn y Cynulliad ac ymateb ffurfiol gan y Gweinidog perthnasol.

 

Cwestiwn 10 yr ymgynghoriad

 

Pa newidiadau y gellid eu gwneud i'r ffordd y mae'r Pwyllgor Deisebau yn ymdrin â deisebau er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i ddeisebwyr neu ystyriaeth fwy effeithiol o'r deisebau? 

 

5.10  Nid yw'r Pwyllgor Deisebau yn ystyried materion sy'n destun ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu gan ddeiliaid swyddi tebyg megis y Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Pobl Hŷn a Chomisiynydd y Gymraeg.  Serch hynny, gall deisebau godi materion y gallai fod yn briodol i'r Ombwdsman neu'r Comisiynwyr gynnal ymchwiliad annibynnol iddynt.

 

 

 

Cwestiwn 11 yr ymgynghoriad

 

A ddylai'r Pwyllgor Deisebau allu cyfeirio deisebau i'r Ombwdsmon neu i ddeiliaid swyddi tebyg, lle mae'n credu bod sail iddynt ymchwilio?

 

6.     Cau deisebau

 

6.1    Gall y Pwyllgor Deisebau gau deisebau ar unrhyw adeg ac mae wedi cau deisebau ar ôl eu hystyried am y tro cyntaf.  Gan amlaf, bydd y Pwyllgor yn cau deiseb:

 

·      lle bydd y deisebwyr yn fodlon bod y mater gwreiddiol wedi cael ei ddatrys; neu

·      pan fo'n amlwg na ellir gwneud llawer o gynnydd, os o gwbl (yn aml ar ôl i Weinidogion wneud datganiad polisi clir nad ydynt yn bwriadu, neu na allant, weithredu'r hyn y mae'r ddeiseb yn galw amdano).

 

6.2    Bydd y Pwyllgor yn aml yn 'cadw golwg' ar ddeisebau lle mae cynnydd yn debygol ond ei fod yn dibynnu ar ffactorau eraill, fel adolygiadau ehangach, deddfwriaeth neu brosesau cyllidebol.

 

6.3    Pan fo'r Pwyllgor yn cytuno i gau deiseb, yn ôl Rheolau Sefydlog rhaid iddo roi gwybod i'r deisebydd a rhoi’r rhesymau dros ei chau.  Caiff hyn ei wneud fel arfer mewn llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor a fydd yn cynnwys crynodeb o'r camau a gymerwyd ynghylch y ddeiseb.

 

Cwestiwn 12 yr ymgynghoriad

 

Pryd y dylid cau deiseb na ellir mynd ymhellach â hi?  A ddylai deiseb aros ar agor cyhyd ag y mae'r mater a godwyd ganddi heb ei ddatrys, neu a ddylid ei chau cyn gynted ag y mae'n amlwg na ellir mynd ymhellach â hi? 

 

7.     Deisebau papur a deisebau ar-lein

 

7.1    Mae'r rhan fwyaf o ddeisebau yn cael eu cyflwyno ar-lein ar wefan y Cynulliad, ond nid oes gwahaniaeth ymarferol yn y ffordd yr ymdrinnir â deisebau ar-lein a deisebau papur traddodiadol.  Yn wir, nid oes rheswm na ddylai deisebau a gesglir ar wefannau deisebau eraill gael eu trafod (er mai ychydig a gaiff eu cyflwyno fel hyn).

 

7.2    Fodd bynnag, mae'r holl ddeunydd cyhoeddusrwydd a hyrwyddo sy'n ymwneud â'r broses ddeisebau yn pwysleisio'r pwysigrwydd bod deisebwyr yn siarad â’r Clerc Deisebau cyn dechrau casglu llofnodion, er mwyn sicrhau bod y geiriad yn dderbyniadwy.  Mae system ar-lein y Cynulliad ei hun yn sicrhau bod y geiriad yn dderbyniadwy cyn cyhoeddi.  Dim ond ar ôl cyhoeddi deiseb sy’n dderbyniadwy y gellir dechrau casglu llofnodion mewn perthynas â hi.

 

7.3    Mae llai o reolaeth dros ddeisebau papur a'r rheini a gyflwynir ar wefannau eraill.  Weithiau bydd deisebwyr yn cysylltu â'r tîm deisebau ar ôl iddynt gasglu llofnodion.  Yn yr achosion hyn, os yw'r ddeiseb yn dderbyniadwy yn gyffredinol, ond heb ei geirio'n gywir, fel arfer caiff ei chaniatáu.  Os bydd angen newid ffocws y ddeiseb yn sylweddol, efallai y rhoddir gwybod i'r deisebydd fod angen deiseb newydd.  Mae hyn yn ôl disgresiwn y tîm clercio, ond defnyddir synnwyr cyffredin.

 

Amserlenni ar gyfer casglu llofnodion

 

7.4    Y deisebydd sy'n penderfynu am ba hyd y mae am i ddeiseb ar-lein fod ar agor er mwyn casglu llofnodion. Cynghorir deisebwyr fod rhwng pedair ac wyth wythnos yn ddigon, ond mae deisebwyr yn aml am gadw eu deisebau ar agor am gyfnod hwy.  Gellir ymestyn y terfynau amser ar gyfer llofnodion ar-lein os bydd y deisebydd am gasglu mwy o lofnodion, neu os yw wedi methu â chyrraedd y nifer ofynnol ar gyfer llofnodion. 

 

Cwestiwn 13 yr ymgynghoriad

 

A ddylid ystyried deisebau a gasglwyd ar wefannau trydydd parti (e.e. change.org neu 38degrees.org) yn yr un modd ag y mae deisebau a gesglir ar wefan y Cynulliad neu ar bapur?  A ddylai deiseb gasglu llofnodion o fewn cyfnod penodol, gan 'fethu' os eir y tu hwnt iddo?

 

8.      Materion eraill

 

Pwy all lofnodi a chyflwyno deiseb

 

8.1    Nid oes cyfyngiadau o ran oedran na phreswyliaeth mewn perthynas â llofnodi a chyflwyno deiseb. Felly, gall pobl y tu allan i Gymru a'r DU gyflwyno deisebau.  Yn yr un modd, gall pobl o unrhyw oedran lofnodi neu gyflwyno deiseb.

 

8.2    Gwaherddir Aelodau'r Cynulliad yn benodol rhag codi deisebau.  Fodd bynnag, nid oes dim i atal staff a gyflogir gan Aelodau'r Cynulliad rhag cyflwyno deisebau, ac mae rhai wedi gwneud hynny. 

 

8.3    Yn yr un modd, nid oes dim byd penodol yn atal staff a gyflogir gan y Cynulliad Cenedlaethol rhag codi ac arwyddo deisebau.  Yn ymarferol, fodd bynnag, mae Cod Ymddygiad Staff y Cynulliad yn eu rhwymo, gan sicrhau nad ydynt yn gallu cymryd rhan amlwg mewn dadl sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth plaid, a chan sicrhau na fynegir safbwyntiau gwleidyddol personol a fyddai’n peryglu eu gallu i wasanaethu aelodau o unrhyw blaid wleidyddol.

 

8.4    Ar hyn o bryd, gall pleidiau gwleidyddol drefnu a chyflwyno deisebau, er bod rhai wedi dadlau bod hyn yn amhriodol o ystyried y ffyrdd eraill sydd ganddynt o gael mynediad at y broses wleidyddol.  Mae eraill o'r farn y dylai trafodaeth wleidyddol a chyhoeddus gael ei hannog a bod pleidiau gwleidyddol yn rhan allweddol o hyn.

 

Cwestiwn 14 yr ymgynghoriad

 

Pwy ddylai fod yn gallu cyflwyno ac arwyddo deisebau?  A ddylai fod unrhyw gyfyngiad o ran preswyliaeth neu oed?  A ddylai staff sy'n gweithio i Aelodau'r Cynulliad neu'r Cynulliad ei hun allu cyflwyno deisebau? A ddylai pleidiau gwleidyddol gael eu hatal rhag cyflwyno deisebau?

 

Deisebwyr mynych a deisebwyr blinderus

 

8.2    Nid oes cyfyngiadau ar bobl yn cyflwyno mwy nag un ddeiseb na chael mwy nag un dan ystyriaeth ar yr un pryd.  Yr unig gyfyngiad yw pe byddai ar yr un pwnc. Yn yr un modd, nid oes darpariaethau ar gyfer delio â deisebwyr blinderus nag â deisebau gwatwarus, na deisebau sy’n camddefnyddio'r broses mewn ffordd arall.

 

Cwestiwn 14 yr ymgynghoriad

 

A ddylai fod mecanwaith ar gyfer atal deisebau yr ystyrir eu bod yn camddefnyddio'r broses?

 

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â'r Clerc Deisebau:

 

Steve George

Clerc y Pwyllgor Deisebau

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Tŷ Hywel

Bae Caerdydd

Caerdydd 

CF99 1NA

 

Ffôn: 0300 200 6374

E-bost:        stephen.george@cynulliad.cymru


 

Adolygiad o Ddeisebau Cyhoeddus – Cylch Gorchwyl 

 

Adolygu system deisebau cyhoeddus y Cynulliad ac ystyried sut y gellir gwneud gwelliannau i'r canlynol:

 

·                     y meini prawf cyfredol o ran derbyniadwyedd;

·                     y modd yr ymdrinnir â deisebau derbyniadwy;

·                     ym mha ffordd y gallai Rheolau Sefydlog a systemau eraill y Cynulliad orfod newid er mwyn cefnogi unrhyw argymhellion.


Rhestr o gwestiynau'r ymgynghoriad

 

1.           Ai sefydlu Pwyllgor Deisebau yw'r ffordd orau o sicrhau bod deisebau yn cael sylw priodol?  A yw maint a chyfansoddiad y Pwyllgor yn addas i'w rôl?

 

2.           A oes angen mwy o eglurder ynghylch priod ffurf deisebau, ynteu a yw'r trefniadau presennol yn ddigonol?

 

3.           A yw'r nifer ofynnol bresennol ar gyfer llofnodion (10) i ddeiseb yn rhy uchel, yn rhy isel neu yn iawn? A ddylai fod rhaid i sefydliadau hefyd gyrraedd nifer ofynnol y llofnodion (pa lefel bynnag y bo)?  Os bydd y nifer ofynnol ar gyfer sefydliadau yn parhau i fod yn wahanol, a oes angen defnyddio diffiniad mwy cadarn o beth yw sefydliad?

 

4.           Ai dim ond deisebau sy’n ymwneud â materion lle mae gan y Cynulliad neu Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb y dylai’r Cynulliad barhau i’w hystyried?

 

5.           A ddylai'r Cynulliad ystyried deisebau ar faterion y mae awdurdodau lleol unigol yn bennaf gyfrifol amdanynt?  A oes cyfrifoldebau awdurdodau lleol y dylid caniatáu deisebau yn eu cylch?

 

6.           A ddylai'r Cynulliad barhau i ystyried deisebau ar faterion y mae gan gyrff cyhoeddus (ac eithrio awdurdodau lleol) gyfrifoldeb bob dydd drostynt?  A oes cyrff cyhoeddus y dylid eu trin yn wahanol (e.e. byrddau iechyd lleol)?

 

7.           A ddylai'r Cynulliad ystyried deisebau sy'n debyg iawn i rai sy'n cael eu hystyried neu sydd wedi cael eu hystyried yn ddiweddar?

 

8.           A ddylai'r Cynulliad barhau i gyhoeddi deisebau annerbyniadwy yn rheolaidd?

 

9.           A oes angen newid Rheolau Sefydlog y Cynulliad mewn perthynas â'r Pwyllgor Deisebau?

 

10.        Pa newidiadau y gellid eu gwneud i'r ffordd y mae'r Pwyllgor Deisebau yn ymdrin â deisebau er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i ddeisebwyr neu ystyriaeth fwy effeithiol o'r deisebau?

 

11.        A ddylai'r Pwyllgor Deisebau allu cyfeirio deisebau i'r Ombwdsmon neu i ddeiliaid swyddi tebyg, lle mae'n credu bod sail iddynt ymchwilio?

 

12.        Pryd y dylid cau deiseb na ellir mynd ymhellach â hi?  A ddylai deiseb aros ar agor cyhyd ag y mae'r mater a godwyd ganddi heb ei ddatrys, neu a ddylid ei chau cyn gynted ag y mae'n amlwg na ellir mynd ymhellach?

 

13.        A ddylid ystyried deisebau a gasglwyd ar wefannau trydydd parti (e.e. change.org neu 38degrees.org) yn yr un modd ag y mae deisebau a gesglir ar wefan y Cynulliad neu ar bapur?  A ddylai deiseb gasglu llofnodion o fewn cyfnod penodol, gan 'fethu' os eir y tu hwnt iddo?

 

14.        Pwy ddylai fod yn gallu cyflwyno ac arwyddo deisebau?  A ddylai fod unrhyw gyfyngiad o ran preswyliaeth neu oed?  A ddylai staff sy'n gweithio i Aelodau'r Cynulliad neu'r Cynulliad allu cyflwyno deisebau? A ddylai pleidiau gwleidyddol gael eu hatal rhag cyflwyno deisebau?

 

15.        A ddylai fod mecanwaith ar gyfer atal deisebau yr ystyrir eu bod yn camddefnyddio'r broses?